Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Mae Democratiaid blaenllaw wedi beirniadu Donald Trump am arwyddo gorchymyn newydd fydd yn atal dinasyddion o chwe gwlad Fwslimaidd rhag teithio i America.
“Mae llacio’r gwaharddiad yn parhau’n waharddiad,” meddai Arweinydd y Democratiaid yn y Senedd, Chuck Schumer wrth USA Today ac yn ôl y Democrat, Nancy Pelosi “yr un gwaharddiad yw’r un yma gyda’r un bwriad.”
“Gwaharddiad ar Fwslemiaid yw’r gwaharddiad yma o hyd,” meddai Is-gadeirydd Mwslemaidd Pwyllgor Gwladol y Democratiaid, Keith Ellison ar drydar.
Daw’r gorchymyn newydd yn sgil deddfwriaeth flaenorol wnaeth arwain at brotestiadau, dryswch mewn meysydd awyrennau a chafodd ei wrthod gan lys ffederal.
Mae’r ddeddfwriaeth yn gwahardd pobol o Sudan, Syria, Iran, Libanus, Somalia ac Yemen sydd heb deitheb ddilys rhag teithio i’r Unol Daleithiau am 90 diwrnod, a bydd cynllun ffoaduriaid y wlad yn dod i ben am 120 diwrnod.
Yn wahanol i’r gorchymyn blaenorol, ni chaiff Irac ei chynnwys ar y rhestr waharddedig ac mae llefarydd ar ran Irac wedi cyfeirio at y newid fel “cam positif” sy’n dangos bod gan Washington a Baghdad berthynas “go iawn.”