Llun: Arsyllfa Ymfudo Prifysgol Rhydychen
Mae  Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump wedi cyhoeddi gorchymyn newydd heddiw gyda’r bwriad o wahardd pobol o chwe gwlad Fwslemaidd rhag teithio i America dros dro.

Mae’r gorchymyn newydd wedi bod ar y gweill ers i lys ffederal wrthod gorchymyn blaenorol oedd yn gwahardd dinasyddion Iran, Irac, Somalia, Sudan, Yemen, Syria a Libanus rhag teithio i’r Unol Daleithiau am 90 diwrnod os nad oes ganddyn nhw fisa dilys.

Ni fydd Irac ar restr gwledydd gwaharddedig y  gorchymyn newydd yn dilyn pwysau gan y Pentagon, gan fod Irac yn chwarae rôl allweddol yn y frwydr yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae Irac wedi croesawu’r penderfyniad gan ddweud ei fod yn dangos bod “perthynas go iawn” rhwng Washington a Baghdad.

Mae disgwyl y bydd y gorchymyn newydd yn arwain at gyfres newydd o achosion cyfreithiol a rhagor o brotestiadau cyhoeddus.