Mosul (Llun: PA)
Mae gwrthryfelwyr Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – wedi ymosod ar luoedd Irac yn ninas Mosul.

Cafodd o leiaf chwech o fomiau car eu ffrwydro yng ngorllewin y ddinas, ond ni chafodd y milwyr eu taro.

Ond mae’r gwrthryfelwyr yn ymosod ar filwyr wrth iddyn nhw symud drwy’r ddinas.

Dechreuodd y brwydro yng nghymdogaeth Dawasa y bore ma.

Mae lluniau’r orsaf deledu Al-Mayadeen yn dangos mwg du trwchus yn codi uwchben y ddinas.