Llygredd yn China (Llun: Vmenkov CCA 3.0)
Mae arweinydd China, Li Keqiang wedi addo mynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol y wlad sy’n cael eu hachosi gan losgi glo.

Fe ddaeth ei sylwadau ar ddechrau digwyddiad blynyddol Cyngres Genedlaethol y Bobol.

Blaenoriaeth y llywodraeth yw ceisio lleihau mwrllwch yn dilyn aflonyddwch ar draws y wlad.

Dywedodd Li Keqiang fod trigolion China am weld mwy yn cael ei wneud i ddatrys y sefyllfa ac i wella ansawdd awyr y wlad.

“Fe wnawn ni’r awyr yn las unwaith eto,” meddai wrth bron i 3,000 o bobol yn ninas Beijing.

Blaenoriaethau

Mae disgwyl i’r llywodraeth uwchraddio ffatrïoedd sy’n cael eu tanio gan lo dros y flwyddyn nesaf fel bod llai o allyriadau carbon, gan wneud mwy o ddefnydd o adnoddau ynni adnewyddadwy.

Ychwanegodd yr arweinydd: “Mae pob ffynhonnell llygredd diwydiannol allweddol yn mynd i gael ei monitro ar-lein bob awr o’r dydd.”

Fe fydd hyn, meddai, yn cynnwys cadw golwg ar gerbydau ar y ffyrdd, gweithredu cyfreithiau amgylcheddol, a sicrhau bod swyddogion sy’n llacio rheolau amgylcheddol yn cael eu “dwyn i gyfrif”.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi croesawu ei sylwadau.