Penelope a Francois Fillon (Llun: PA)
Mae’r Gymraes Penelope Fillon, gwraig ymgeisydd arlywyddol Ffrainc Francois Fillon, yn mynnu ei bod hi wedi gweithio am y cyflog a gafodd gan ei gŵr.

Mae honiadau bod y ddynes sy’n hanu o’r Fenni wedi derbyn cyflog heb gwblhau’r gwaith yr oedd hi wedi cael ei chyflogi i’w wneud.

Fe fydd y Blaid Weriniaethol yn cynnal trafodaethau brys ynghylch y mater ddydd Llun wrth i’r galwadau ar iddo ymddiswyddo o’r blaid gynyddu.

Mae disgwyl iddo fynychu rali ym Mharis yn ddiweddarach heddiw.

‘Cyfreithlon’

Dywedodd Penelope Fillon wrth y cylchgrawn Journal du Dimanche fod “popeth yn gyfreithlon ac wedi’i ddatgan”.

“Os nad oeddwn i wedi’i wneud e, byddai e wedi talu rhywun arall i’w wneud e, felly fe benderfynon ni mai fi fyddai’n ei wneud.”

Mae Francois Fillon wedi cyhuddo’i wrthwynebwyr o “geisio lladd ysfa am newid”.

Mae rhagolygon yn awgrymu y gallai golli’r etholiad yn y rownd gyntaf, ac mae arolwg gan Journal du Dimanche yn dangos bod 71% o bobol am ei weld e’n rhoi’r gorau i’w ymgeisyddiaeth.

Mae ei lefarydd, Thierry Solere eisoes wedi ymddiswyddo.