Mae beth bynnag wyth o bobol gyffredin – a phedwar o blant yn eu plith – wedi’u lladd yn Afghanistan, mewn ymosodiad awyr.

Mae rhai’n dweud mai ymosodiad awyr oedd yn gyfrifol am y lladd, tra bod yr awdurdodau yn ardal Bala Buluk yn honni mai bom ochr ffordd oedd yn gyfrifol.

Mae 22 o bobol hefyd wedi’i cludo i’r ysbyty yn dilyn yr ymosodiad. Mae tri o’r rheiny mewn cyflwr difrifol.