Jeff Sessions (Llun: Wikipedia)
Mae’n ymddangos gwnaeth Twrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau, Jeff Sessions,  gyfathrebu â llysgennad Rwsia dwywaith yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Mae’r canfyddiad wedi arwain nifer yng nghyngres y wlad yn galw arno i bellhau ei hun o ymchwiliad yr adran gyfiawnder ynglŷn ag ymyrraeth Rwsia yn etholiad yr Unol Daleithiau.

Mewn datganiad cafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher, dywedodd y Twrnai Cyffredinol: “Rwyf erioed wedi cwrdd â swyddogion Rwsiaidd er mwyn trafod materion yr ymgyrch etholiadol.”

Wrth gael ei holi am yr ymgyrch etholiadol yn ystod gwrandawiadau ym mis Ionawr, gwnaeth Jeff Sessions wadu unrhyw gysylltiad â’r Rwsiaid.

Cyfarfod gyda’r llysgennad

Yn ôl llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn gwnaeth Jeff Sessions gwrdd â’r llysgennad fel aelod o Bwyllgor Lluoedd Arfog y Senedd gan ddadlau bod y cyfarfod wedi bod yn swyddogol a chyfreithlon.

Yn ei swydd yn Seneddwr ac Aelod o Bwyllgor Lluoedd Arfog gwnaeth Jeff Sessions gynnal 25 o drafodaethau y llynedd ynghyd â dau ychwanegol gyda llysgennad Rwsia, Sergey Kislyak.