Bluff Cove Malfinas
Mae’r Ariannin yn honni bod Brasil wedi torri cytundeb rhwng y ddwy wlad, trwy ganiatau i awyrennau llu awyr Prydain i hedfan o feysydd awyr yn y wlad honno i ynysoedd y Malfinas (Falklands).

Yn ol datganiad gan weinyddiaeth dramor yr Ariannin, mae’n “bryderus” ynglyn â chwech ehediad yn ystod 2016, a dwsin yn ystod 2015.

Yn ol yr Ariannin, mae wedi gofyn am eglurhad gan lywodraeth Brasil.

Mae’r Ariannin yn dal i fynnu mai hi sydd â’r hawl ar ynysoedd y Malfinas. Ond mae llywodraeth Prydain yn dweud fel arall, bod ynysoedd y Falklands yn eu rheoli eu hunain dan warchodaeth Prydain.