Mae masnachwyr sy’n flin gyda grwp hawliau anifeiliaid o’r Unol Daleithiau, wedi tynnu diodydd Coca Cola a Pepsi oddi ar eu silffoedd yn nhalaith Tamil Nadu yn ne India.

Mae cymdeithas fasnachwyr y dalaith yn dweud fod y cwmnïau diodydd meddal yn tynnu gormod o ddwr o’r ardal, ond eu bod yn cael eu targedu hefyd oherwydd bod grwp hawliau anifeiliaid PETA o’r Unol Daleithiau wedi bod yn pwyso am wahardd yr arfer lleol o ddofi teirw, jallikattu.

Fe gafodd y diodydd eu tynnu oddi ar y silffoedd mewn mwy na miliwn a hanner o siopau lleol brynhawn Mercher, Mawrth 1.

Ym is Ionawr eleni, fe gafodd Tamil Nadu ei hysgwyd gan ddegau o filoedd o bobol yn protestio ac yn mynnu y dylai’r gwaharddiad ar jallikattu gael ei ddileu. Yn ystod y protestiadau hynny, fe drodd miloedd o bobol ifanc yn erbyn mudiad PETA.

Mae siopwyr yn dweud y byddan nhw’n rhoi’r gorau i werthu diodydd cola, ac yn hytrach yn hybu diodydd meddal sy’n cael eu cynhyrchu yn Tamil Nadu, neu boteli a chaniau o ddwr cnau coco.