Mae Penelope Fillon (chwith) yn hannu o'r Fenni (Llun: Wikipedia)
Mae adroddiadau bod gwraig Francois Fillon, ymgeisydd arlywyddol Ffrainc, wedi cael ei dwyn i’r ddalfa.

Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn honiadau bod Francois Fillon wedi creu swydd arbennig ar gyfer Penelope Fillon, sy’n hanu o’r Fenni.

Ond mae’r erlynydd ariannol yn gwadu ei bod hi yn y ddalfa.

Mae Francois Fillon wedi canslo ymweliad â fferm Salon d’Agriculture, ond dydy ei swyddfa ddim wedi cynnig rheswm.

Yn ôl Francois Fillon, mae’r honiadau’n ymgais gan wrthwynebwyr i’w bardduo fe a’i wraig.

Ddydd Gwener, yn dilyn ymchwiliad cychwynnol, penderfynodd swyddfa’r erlynydd ariannol y dylid cynnal arolwg barnwrol cyn y bydd unrhyw gyhuddiadau yn erbyn Francois Fillon neu ei wraig.

Ymhlith y cyhuddiadau yn erbyn y ddau mae camddefnyddio arian cyhoeddus.

Yn ôl y papur newydd wythnosol, Le Canard Enchaine, cafodd taliadau llwgr o fwy na miliwn Ewro eu gwneud i Penelope Fillon a dau o blant y cwpwl.

Mae’r protestiadau yn erbyn ei ymgeisyddiaeth i ddod yn Arlywydd Ffrainc wedi cynyddu dros yr wythnosau diwethaf.