Mosul yn Irac Llun: PA
Mae tua 8,000 o bobl wedi ffoi gorllewin Mosul a phentrefi gerllaw ers i luoedd Irac ddechrau ymgyrch i ail-feddiannu hanner ddwyreiniol y ddinas o’r grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS), meddai’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r rhai sydd wedi ffoi ac sy’n cyrraedd ardaloedd sydd wedi’u rheoli gan y llywodraeth, yn aml angen triniaeth am sychder a blinder, meddai swyddfa cymorth ddyngarol y Cenhedloedd Unedig (Ocha).

Mae asiantaethau cymorth a llywodraeth Irac yn ehangu nifer y safleoedd yn yr ardal ar gyfer y bobl sydd wedi ffoi o’u cartrefi.

Wythnos ddiwethaf, cafodd ymgyrch ei lansio gan Irac i ddisodli IS o orllewin Mosul, gyda chymorth y glymblaid sy’n cael ei harwain gan yr Unol Daleithiau.

Fe gyhoeddodd Irac ym mis Ionawr bod dwyrain Mosul “wedi’i rhyddhau’n llwyr” ar ôl tri mis o frwydro ffyrnig.