Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac o geisio llofruddio ar ôl gyrru i ganol torf o bobol yn Heidelberg yn yr Almaen.

Mae ymchwiliad ar y gweill i’r digwyddiad, ond dydy’r heddlu ddim yn credu mai ymosodiad brawychol oedd hwn.

Cafodd tri o bobol eu hanafu, a bu farw un ohonyn nhw’n ddiweddarach.

Daeth y gyrrwr allan o’r car gyda chyllell yn ei law cyn cael ei saethu gan yr heddlu, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl.

Dydy e ddim yn ymateb i gwestiynau’r heddlu ar hyn o bryd.