Ni fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn mynd i ginio newyddiadurwyr y Tŷ Gwyn.

Fe fydd e’n wfftio’r cinio, gan gefnu ar draddodiad, yn dilyn ffrae â sawl asiantaeth newyddion yn ddiweddar.

Mae e wedi gwahardd nifer o asiantaethau a sefydliadau, gan gynnwys y BBC, rhag mynd i gyfarfodydd y wasg yn y Tŷ Gwyn gan honni eu bod nhw’n cynhyrchu “newyddion ffug”.

Ymhlith y sefydliadau Americanaidd a gafodd eu gwahardd mae CNN a’r New York Times.

Cafodd y Guardian a’r Daily Mail eu gwahardd rhag mynd i’r cyfarfod ddydd Gwener hefyd, sydd wedi codi gwrychyn ymgyrchwyr sydd o blaid gwasg rydd mewn byd democrataidd.

Mae Donald Trump wedi cyhuddo’r wasg o fod yn “elyn y bobol”.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Gohebwyr y Tŷ Gwyn fod y mudiad yn “protestio’n gadarn”, gan ddweud bod safbwyntiau Donald Trump yn peryglu democratiaeth yr Unol Daleithiau.

Fe fydd y New York Times yn darlledu hysbyseb yn ystod seremoni’r Oscars heno yn mynnu bod “y gwirionedd yn anodd”.