Asghar Farhadi (Llun: Wikipedia)
Mae cyfarwyddwr ffilm o Iran wedi dweud na fydd e’n teithio i’r Unol Daleithiau ar gyfer seremoni fawreddog yr Oscars hyd yn oed pe bai’n cael teithio.

Fe fydd yn protestio yn erbyn gwaharddiad teithio Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, sydd wedi bod yn ceisio atal pobol o wledydd Mwslimaidd rhag mynd i’r wlad.

Yn hytrach na mynd i’r seremoni fawreddog heno, fe fydd dangosiad arbennig o ffilm Asghar Farhadi, The Salesman yn cael ei gynnal yn Sgwâr Trafalgar, ac fe fydd yn annerch y gynulleidfa drwy gyfrwng fideo.

Mae’r ffilm wedi’i henwebu yng nghategori’r ffilm orau mewn iaith dramor.

Mae’r dangosiad wedi cael ei drefnu gan Faer Llundain Sadiq Khan, a’r actorion Keira Knightley, Dominic West a Lily Cole.

Dywedodd Keira Knightley y byddai’r dangosiad yn “ddathliad o’n hamrywiaeth” wrth i “rethreg sy’n bennaf yn hiliol ac yn genedlaetholgar ddod yn bolisi gwleidyddol”.

Oscars

Mae disgwyl nifer o areithiau am Donald Trump yn ystod seremoni’r Oscars heno.

Fe allai’r ffilm La La Land greu hanes ar ôl cael ei henwebu am 14 o wobrau, sy’n gyfartal ag All About Eve a Titanic.

Mae disgwyl iddi gipio’r gwobrau ar gyfer y ffilm orau a’r cyfarwyddwr gorau, tra bod disgwyl hefyd i Emma Stone gipio’r wobr ar gyfer yr actores orau.

Casey Affleck yw’r ffefryn i ennill gwobr yr actor gorau am ei ran yn Manchester By The Sea.