Maes awyr Kuala Lumpur (Llun parth cyhoeddus)
Mae maes awyr rhyngwladol Kuala Lumpur yn cael ei ddiheintio ar ôl i’r heddlu gasglu mae cemegyn nerfol cryf oedd wedi lladd hanner brawd Arlywydd Gogledd Corea.

Cafodd y cemegyn VX ei ddarganfod ar lygaid ac wyneb Kim Jong Nam yn dilyn dadansoddiad gan Adran Gemeg Malaysia.

Er fod dyddiau wedi mynd ers y llofruddiaeth a channoedd o filoedd o bobol wedi bod trwy’r maes awyr, mae’r awdurdodau wedi cadarnhau bod y diheintio bellach yn digwydd.

Bu farw Kim Jong-nam yn dilyn ymosodiad yn y maes awyr ym Malaysia ar ôl i ddwy fenyw ymosod arno a gwthio’r cemegyn i’w wyneb.

Mae un o’r menywod sydd dan amheuaeth o fod wedi ymosod ar Kim Jong Nam bellach yn sâl ond mae hi, y ddynes arall ac un dyn, yn y ddalfa.