Kim Jong Un - mae arweinydd Gogledd Corea eto i gydnabod mai ei hanner brawd sydd wedi'i ladd
Mae Gogledd Corea wedi gwadu unrhyw ran yn llofruddiaeth hanner brawd ei harweinydd, Kim Jong Un, gan ddweud fod yr ymchwiliad sydd ar droed yn Malysia yn “llawn tyllau a gwrth-ddweud”.

Fe ddaw ymateb y Gogledd ddiwrnod wedi i Malaysia gyhoeddi ei bod yn chwilio am ddau unigolyn o Ogledd Corea, yn cynnwys is-ysgrfennydd yn llysgenhadaeth y wlad yn Kuala Lumpur.

Bu farw Kim Jong Nam ym maes awyr Kuala Lumpur ar Chwefror 13, ac mae lluniau teledu cylch-cyfyng yn dangos merched yn dod ato gan daenu neu rwbio eu dwylo ar ei wyneb.

Ond dydi Gogledd Corea ddim eto’n cydnabod mai Kim Jong Nam ydi’r dyn gafodd ei ladd.

Yn hytrach, mae’n dweud fod De Corea wedi “gwneud ffws” am y farwolaeth, er mwyn rhoi’r bai ar Ogledd Corea.