Mae’r Pab Ffransis wedi gorchymyn pobol i siarad llai a gwneud mwy er mwyn gwneud yn siwr fod bwyd yn cyrraedd pobol sy’n newynu yn Ne Sudan.

Dydi geiriau ddim yn ddigon, meddai pennaeth yr eglwys Gatholig, pan mae miliynau o bobol wedi’u tynghedu i farw o ddiffyg bwyd oherwydd y rhyfel cartref yn eu gwlad.

Fe ddaw ei sylwadau ddydd wedi i arlywydd De Sudan, Salva Kiir, addo “mynediad didramgwydd” i unrhyw fudiad dyngarol sydd am ddod â bwyd i’r wlad. Ond mae De Sudan wedi addo hynny cyn hyn.

“Ar hyn o bryd, mae’n fwy angenrheidiol nag erioed i bawb roi’r gorau i ddefnyddio geiriau, ac i weithredu’n gadarn fel bod bwyd yn cyrraedd y boblogaeth sy’n diodde’ go iawn,” meddai’r Pab.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig fod yna newyn mewn rhannau o’r wlad sy’n gyfoethog iawn o ran olew. Yn ôl y mudiad, mae mwy na 100,000 yn diodde’ o newyn, ac mae miliwn arall yn brin o fwyd.