Llun teledu cylch cyfyng o faes awyr Kuala Lumpur ar Chwefror 13
Roedd y ddwy ddynes sy’n cael eu hamau o ladd hanner-brawd arweinydd Gogledd Corea, wedi’u hyfforddi i daenu cemegion gwenwynig hyd eu dwylo a’u rhwbio ar hyd ei wyneb, meddai heddlu Malaysia.

Fe ddaeth cyhoeddiad heddiw hefyd gan arolygydd cyffredinol yr heddlu, Khalid Abu Bakar, bod yr awdurdodau bellach yn chwilio am un o ddiplomyddion Gogledd Corea mewn cysylltiad â’r ymosodiad ar Kim Jong Nam ym maes awyr Kuala Lumpur ar Chwefror 13.

Maen nhw’n chwilio am ddau o bobol o Ogledd Corea, yn cynnwys is-ysgrifennydd llysgenhadaeth y wlad yn Kuala Lumpur. Un o weithwyr cwmni hedfan Air Koryo ydi’r llall.