Marine Le Pen
Mae ymgeisydd arlywyddol y Front National yn Ffrainc, Marine Le Pen, wedi cerdded allan o gyfarfod â chlerigwr yn Libanus ar ôl gwrthod gwisgo penwisg Fwslemaidd draddodiadol.

Roedd disgwyl iddi gyfarfod â’r clerigwr Sunni, Sheikh Abdel-Latif Derian ond ar ôl i swyddogion ofyn iddi wisgo’r benwisg cyn mynd i mewn i’r adeilad, cerddodd hi i ffwrdd.

Ers y digwyddiad, mae hi’n dadlau bod y swyddogion yn gwybod ymlaen llaw na fyddai hi’n gwisgo’r benwsig, a’i bod hi wedi cymryd bod hynny’n iawn ganddyn nhw.

Dywedodd swyddogion yn Libanus ei bod hi’n ymwybodol o’r gofynion ymlaen llaw. Mae hi wedi cyhuddo’r swyddogion o “orfodi’r benwisg” arni.

Neges Gristnogol

Mae Marine Le Pen ar dridiau o daith yn Libanus er mwyn lledaenu ei neges Gristnogol.

Ddydd Llun, yn dilyn cyfarfod ag Arlywydd y wlad, Michel Aoun, dywedodd Marine Le Pen mai’r ffordd orau o amddiffyn Cristnogion oedd “diddymu” grŵp Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – yn hytrach na bod yn agored i groesawu ffoaduriaid o wledydd Mwslemaidd.

Mae ei sylwadau wedi corddi’r dyfroedd yn Libanus, gyda rhai yn ei beirniadu hi am greu ‘stigma’ ynghylch Mwslemiaid. Mae hi hefyd wedi dweud yr wythnos hon mai cefnogi Bashar Assad, Arlywydd Syria, yw’r ffordd ymlaen i Ffrainc.

Mae’r sylw hwnnw wedi cythruddo rhai, gan gynnwys arweinydd plaid asgell dde Cristnogol yn Syria, Samir Geagea, sy’n dweud mai Bashar Assad yw’r “brawychwyr mwyaf yn Syria a’r rhanbarth”.

Mae pleidiau asgell dde yn Libanus hefyd wedi beirniadu Marine Le Pen, gan ddweud bod ei sylwadau’n “sarhau pobol Libanus a Syria”.