Y Ty Gwyn yn Washington
Mae Donald Trump wedi penodi ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol newydd yn dilyn ymddiswyddiad Michael Flynn wythnos ddiwethaf.

Cyhoeddodd yr Arlywydd mai’r Is-gadfridog H R McMaster, sydd wedi ei benodi i’r rôl.

Cyfeiriodd ato fel dyn “â thalent a phrofiad helaeth” a dywedodd H R McMaster bod y penodiad yn “anrhydedd”.

Mae’r Arlywydd hefyd wedi dyrchafu’r Is-gadfridog Keith Kellog yn Bennaeth Staff ar y Pwyllgor Amddiffyn Cenedlaethol.

Michael Flynn

Bu’n rhaid i Michael Flynn adael ei swydd wythnos ddiwethaf pan ddaeth i’r amlwg nad oedd wedi datgelu’n llawn i’r Dirprwy-Arlywydd, Mike Pence, beth oedd ei gysylltiadau gyda llysgennad Rwsia.

Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Iau, dywedodd Donald Trump ei fod yn siomedig â thriniaeth Michael Flynn o Mike Pence er nad oedd yn credu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le drwy gynnal y trafodaethau.

Roedd Robert Harward, dewis cyntaf Donald Trump i olynu Michael Flynn, wedi gwrthod y cynnig o’r swydd.