Mosul yn Irac Llun: PA
Mae lluoedd Irac wedi cyrraedd cyrion Mosul wrth iddyn nhw barhau â’u hymgyrch i ad-ennill y ddinas o ddwylo’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae hofrenyddion byddin y wlad wedi bod yn tanio rocedi at bentref Abu Saif tra bod plismyn mewn cerbydau arfog wedi bod yn symud tuag at ganolfan filwrol Ghazlani yn ne orllewin Mosul.

Dechreuodd ymgyrch byddin a heddlu Irac ddydd Sul i gipio gorllewin Mosul yn dilyn ymgyrch 100 diwrnod o hyd i gael gwared a IS o ddwyrain y ddinas.

Mae byddin yr Unol Daleithiau wedi bod yn cynorthwyo’n filwrol o’r awyr ac mae’r Arlywydd Donald Trump wedi galw ar yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Jim Mattis i baratoi cynllun er mwyn cyflymu’r frwydr a churo IS.

Mae 5,100 o filwyr yr Unol Daleithiau yn Irac ac maen nhw wedi bod yn cyfrannu at yr ymgyrch o’r awyr, ers ei ddechrau tair mis yn ôl.

Cafodd Mosul, ail ddinas fwyaf Irac ei chipio gan IS yn ystod haf 2014 pan gollodd y llywodraeth rheolaeth dros rannau helaeth o ogledd a gorllewin y wlad.