Yr Arlywydd Donald Trump (Llun: Michael Vadon/CCA4.0)
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi cyhuddo’r cyfryngau o gyhoeddi’r hyn mae e’n ei alw’n “newyddion ffug”.

Gwnaeth ei sylwadau yn ystod rali arbennig mewn maes awyr yn Fflorida.

Fe gyhuddodd y “cyfryngau anonest” o gyhoeddi un stori anwir ar ôl y llall ers iddo ddod i rym bedair wythnos yn ôl.

Dywedodd na fyddai’n rhoi “rhwydd hynt” i’r cyfryngau ddweud celwyddau wrth y cyhoedd.

Yn ystod y rali, dywedodd ei wraig Melania y byddai hithau’n canolbwyntio ar faterion sydd o bwys i fenywod a phlant o amgylch y byd.

Mae’r digwyddiad yn cael ei ystyried yn fath o rali ymgyrchu, gyda rhai o’r cyfryngau’n dweud ei bod hi’n rhy gynnar am ddigwyddiad o’r fath.

Ond tarodd Donald Trump yn ôl gan ddweud mai “ymgyrch yw bywyd”.

Polisïau

Ymhlith y polisïau y mae Donald Trump wedi ymrwymo iddyn nhw mae diwygio gofal iechyd, adeiladu wal ddadleuol ar hyd y ffin â Mecsico, lleihau rheoliadau a chreu swyddi.

Mae e hefyd wedi addo mynd i’r afael â helynt ei waharddiad teithio sydd wedi cael ei atal gan y llysoedd.

Dywedodd Donald Trump ei fod e wedi “etifeddu llanast” gan Barack Obama.

Helyntion

Yn ei bedwar wythnos gyntaf wrth y llyw, fe fu’n rhaid i Donald Trump ymdrin â sawl helynt yn ymwneud â’i staff.

Mae e’n chwilio bellach am ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol newydd ar ôl i Michael Flynn gael ei orfodi i adael ei swydd yr wythnos hon.

Mae Robert Harward, dewis cyntaf Donald Trump, wedi gwrthod y swydd.

Fe fu’n rhaid i Michael Flynn ymddiswyddo ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi camarwain y Dirprwy Arlywydd Mike Pence ynghylch sancsiynau ar Rwsia.