Kim Jong Un (Llun: PA)
Mae’r heddlu ym Malaysia yn chwilio am bedwar o bobol eraill mewn perthynas â marwolaeth hanner brawd arweinydd y wlad, Kim Jong Un.

Mae lle i gredu bod y pedwar wedi gadael y wlad ar y diwrnod y cafodd Kim Jong Nam ei ladd yn dilyn ymosodiad mewn maes awyr.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw hefyd yn chwilio am bumed person.

Mae pedwar o bobol eisoes wedi cael eu harestio, gan gynnwys dwy ddynes, cariad un o’r ddwy, a dyn o Ogledd Corea.