Mae Dirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau, Mike Pence wedi ategu neges yr Arlywydd Donald Trump fod rhaid i aelodau Nato wario mwy o arian ar amddiffyn.

Ymrwymodd 28 o wledydd Nato i wario 2% o GDP ar amddiffyn o fewn degawd.

Ond yn ôl Mike Pence, dim ond yr Unol Daleithiau a phedair o wledydd Nato sy’n cadw at yr ymrwymiad.

Dywedodd fod methiant y gwledydd eraill yn “erydu seiliau ein cynghrair ni”, a bod yr “amser wedi dod i wneud mwy”.

Fe fydd yn cyfarfod â Changhellor yr Almaen yn ddiweddarach heddiw.

‘Nato er lles America’

Dywedodd Angela Merkel wrth gynhadledd fod sicrhau ymrwymiad gwledydd Nato “er lles America”.

Galwodd hi ar yr un pryd ar i’r Unol Daleithiau gefnogi sefydliadau Ewropeaidd eraill, gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig.

Ychwanegodd fod “gweithredu gyda’n gilydd yn cryfhau pawb”.

Ond mae pryderon o hyd y bydd ei chyngor yn cael ei anwybyddu gan Donald Trump a’i weinyddiaeth.

“A fyddwn ni’n gallu parhau i gydweithio’n dda, neu a fyddwn ni’n cwympo’n ôl i’n rolau unigol?

“Dw i’n galw arnon ni – a gobeithio y cawn ni safbwynt cyffredin yn hyn o beth – i wneud y byd yn lle gwell ac yna bydd pethau’n gwella i bob un ohonon ni.”

Materion byd-eang

Mae’r Unol Daleithiau’n mynnu y bydd Mike Pence ac Angela Merkel yn ymrwymo i gydweithio ar gyfres o faterion byd-eang.

Mae’r ddau yn gytûn, er enghraifft, fod angen i Nato gael ei drawsnewid ar gyfer bygythiadau i ddiogelwch yn yr unfed ganrif ar hugain.

Diolchodd Mike Pence i Angela Merkel am arwain ar fater yr Wcráin ac am ran yr Almaen yn yr ymdrech i gadw trefn yn Afghanistan a’r frwydr yn erbyn y ‘Wladwriaeth Islamaidd’.