Paris (Llun: Wikipedia)
Mae protestwyr yn ymgasglu ym Mharis i fynegi eu dicter yn dilyn honiadau bod dyn croenddu wedi cael ei dreisio gan yr heddlu.

Mae arweinydd y Front National, Marine Le Pen wedi galw am wahardd y brotest er parch at yr heddlu.

Yn dilyn yr ymosodiad yn nhref Aulnay-sous-Bois ger Paris, fe fu’r dyn 22 oed yn yr ysbyty am hyd at bythefnos.

Mae pedwar o blismyn wedi cael eu cyhuddo mewn perthynas â’r digwyddiad, ond maen nhw’n gwadu iddyn nhw wneud unrhyw beth o’i le.