Kim Jong Un (Llun: PA)
Mae ffrae yn corddi rhwng Malaysia a Pyongyang tros bwy sy’n gyfrifol am gorff hanner brawd arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un.

Bu farw Kim Jong Nam ar ôl cael ei daro’n wael ym maes awyr Kuala Lumpur ddydd Llun wrth iddo aros am awyren i deithio adref.

Dywedodd wrth staff y maes awyr ei fod e wedi cael ei chwistrellu â chemegyn, ac fe fu farw ar ei ffordd i’r ysbyty.

Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal ym Malaysia yn groes i ddymuniadau Gogledd Corea, sy’n dadlau y dylen nhw gael penderfynu beth sy’n digwydd i’w gorff.

Ail archwiliad post-mortem

Cafodd ail archwiliad post-mortem ei gynnal neithiwr oherwydd bod canlyniadau’r archwiliad cyntaf wedi methu nodi sut y bu farw.

Ond mae swyddogion ym Malaysia yn gwadu bod yr ail archwiliad wedi cael ei gynnal, gan ddweud nad yw canlyniadau’r archwiliad cyntaf yn hysbys eto.

Mae Gogledd Corea wedi dweud y byddan nhw’n gwrthod derbyn canlyniad unrhyw archwiliad post-mortem, gan gyhuddo Malaysia o “gydweithio â lluoedd gelyniaethus”.

Arestio pedwar

Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio mewn perthynas â marwolaeth Kim Jong Nam.

Dyn 46 oed, sydd wedi’i enwi fel Ri Jong Chol, yw’r diweddaraf i gael ei arestio.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ond mae De Corea wedi cyhuddo Gogledd Corea o gyflogi unigolion i’w ladd e, gan honni bod dwy ddynes wedi ei wenwyno cyn ffoi mewn tacsi.

Cafodd dynes 25 oed o Indonesia, Siti Aisyah ei harestio ddydd Gwener.

Mae’r heddlu’n parhau i holi dau o bobol eraill.