Mae mudiadau sy’n ceisio amddiffyn iaith Ffrainc yn gandryll bod slogan uniaith Saesneg wedi ei ddefnyddio wrth geisio denu Olympics 2024 i Baris.

Mae’r cyfreithiwr Emmanuel Ludot wedi cyflwyno cais i’r llywodraeth i roi terfyn ar y defnydd o ‘Made for Sharing’.

Hefyd mae wedi rhybuddio pwyllgor y cais am y Gemau Olympaidd, ei bod yn bosib bod y slogan Saesneg yn groes i ddeddf sy’n gwarchod yr iaith Ffrangeg.

Mae mudiadau iaith Ffrainc yn mynnu bod y slogan yn ddwyieithog neu yn uniaith Ffrangeg.

“Rydym am iddyn nhw gyfathrebu yn ein hiaith ni,” meddai Emmanuel Ludot.

Bydd Pwyllgor yr Olympics yn dewis cyrchfan Gemau 2024 ym mis Medi – mae Paris, Budapest a Los Angeles ar y rhestr fer.