Yr allor yn Sehwan (llun parth cyhoeddus)
Mae o leia’ 50 o bobol ac efallai gymaint â 72 o bererinion wedi eu lladd mewn ymosodiad yn ne Pacistan.
Mae mudiad milwrol IS wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad gan ddweud eu bod wedi taro cyfarfod o Fwslemiaid Shiiaidd.
Mae’n ymddangos boid dyn gyda gwregys bomiau wedi cerdded i ganol tyrfa oedd yn dawnsio gerbron allor pwysig Lal Shahbaz Qalandar yn nhre’ Sehwan.
‘Dial’
Fe gododd nifer y meirwon yn gyson, gyda sianeli teledu lleol yn sôn am gyfanswm o 72 a channoedd wedi eu hanafu.
Mae pobol yn teithio o bell at yr allor lle mae proffwyd o’r garfan Sufi wedi ei gladdu.
Mae gwasanaethau newyddion lleol hefyd yn sôn am ymateb arweinydd y fyddin yn yr ardal, yn addo dial.