Donald Trump yn gwybod (CCA 3.0)
Mae wedi dod i’r amlwg fod Arlywydd yr Unol Daleithiau yn gwybod ers pythefnos bod ei Ymgynghorydd Diogelwch Cenedlaethol wedi camarwain swyddogion y Tŷ Gwyn tros drafodaethau gyda Rwsia.

Mae rhai gwleidyddion o’i blaid ef, y Gweriniaethwyr, wedi ymuno â’r Democratiaid i alw am ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd cyn ymddiswyddiad Michael Flynn ddoe.

Roedd hynny ar ôl iddo “gamarwain” y Dirprwy Arlywydd, Mike Pence, gan achosi iddo yntau wneud datganiad anghywir.

Ond mae cofnodion yn dangos bod Donald Trump wedi cael gwybod ar Ionawr 20 am drafodaethau’r Ymgynghorydd Diogelwch â llysgennad Rwsia, Sergey Kislyak, ond wnaeth e ddim codi’r mater tan yn hwyr nos Lun.

Cwestiynau

Dau o’r cwestiynau sy’n codi yw pam nad oedd Donald Trump ei hun wedi rhoi gwybod i’w Ddirprwy a pham yr oedd yr Arlywydd wedi mynegi “hyder llawn” yn Michael Flynn oriau cyn iddo ymddiswyddo.

Ac mae swyddogion y Tŷ Gwyn yn mynnu mai’r rheswm dros ymddiswyddiad Michael Flynn oedd ei fod wedi camarwain y Dirprwy Arlywydd, Mike Pence, am natur ei drafodaethau.

Roedd y rheiny’n mynd yn groes i’r rheolau, os nad y gyfraith, oherwydd eu bod yn trafod polisi tramor cyn i Donald Trump ddod i’r Tŷ Gwyn.

Mae’r Arlywydd wedi ceisio taflu’r cwestiynau i gyfeiriad arall trwy drydar mai’r stori go iawn yw’r ffaith fod cofnodion am sgyrsiau Michael Flynn a’r llysgennad wedi dod yn gyhoeddus.