Kim Jong-un
Mae hanner brawd arweinydd Gogledd Corea wedi cael ei ladd, yn ôl adroddiadau gan ffynonellau llywodraeth De Corea.

Mae adroddiadau fod Kim Jong-nam, 45 oed, wedi cael ei dargedu ym maes awyr Kuala Lumpur ym Malaysia gan ddwy ddynes â ‘nodwyddau gwenwynig.’

Roedd yn hanner brawd i Kim Jong-un ac yn fab i Kim Jong-il a fu’n arwain Gogledd Corea o 1994 tan ei farwolaeth yn 2011.

Bu Kim Jong-nam yn ffefryn i arwain Gogledd Corea am gyfnod tan iddo gael ei ddal yn ceisio mynd i mewn i Siapan gyda phasbort ffug yn 2001 gan ddweud ei fod eisiau ymweld â Disneyland Tokyo.