Gorsaf niwclear Sellafield
Mae cyfrannau Toshiba wedi gostwng ar ôl i’r cwmni o Japan ohirio cyhoeddiad lle’r oedd disgwyl i’r cwmni gadarnhau eu bod yn tynnu allan o brosiectau niwclear newydd y tu allan i Japan.

Fe fyddai’r cyhoeddiad wedi bod yn ergyd i gynlluniau ar gyfer gorsaf bŵer newydd yn y Deyrnas Unedig gyda’r gobaith o greu miloedd o swyddi newydd.

Mae Toshiba wedi bod yn adolygu ei fuddsoddiad mewn prosiectau niwclear dramor ac roedd disgwyl i i’r cwmni wneud cyhoeddiad heddiw.

Roedd cyfrannau Toshiba wedi gostwng mwy na 9% ar y Gyfnewidfa Stoc yn Tokyo yn sgil y cyhoeddiad.

Mae Toshiba yn berchen y cwmni datblygu niwclear Westinghouse yn yr Unol Daleithiau ac roedd disgwyl i’w adweithyddion niwclear gael eu defnyddio yn yr orsaf bŵer newydd gwerth £10 biliwn a oedd wedi’i gynllunio ar gyfer Moorside yn Cumbria.

Mae gan y cwmni hefyd gyfran o 60% yng nghwmni Nugen sy’n bwriadu adeiladu yn Moorside ger Sellafield, felly fe fyddai’n golygu y byddai’r Llywodraeth yn gorfod dod o hyd i fuddsoddwyr newydd os yw’n penderfynu peidio parhau gyda’r prosiect.