Yr Alpau yn Ffrainc
Mae o leiaf pedwar o bobol wedi marw mewn cwymp eira ym mynyddoedd yr Alpau yn Ffrainc, yn ôl y gwasanaethau brys.

Mae adroddiadau pellach yn y wasg Ffrengig fod mwy o bobol wedi’u dal yn y gyrchfan sgïo, Tignes, ger y ffin â’r Eidal.

Yn ôl arbenigwyr, roedd gwyntoedd cryfion a thymereddau cynhesach wedi cyfrannu at y cwymp eira, gyda thua 4 modfedd wedi disgyn dros yr wythnos diwethaf gyda disgwyl am ragor yr wythnos hon.

Mae Tignes yn gyrchfan sgïo boblogaidd gyda’r wythnos hon yn un o wythnosau prysura’r tymor wrth iddi arwain at wyliau hanner tymor yn ysgolion y Deyrnas Unedig a Ffrainc.