Mae dathliadau Dydd San Ffolant wedi cael eu gwahardd gan farnwr ym Mhacistan, sy’n dadlau bod yr achlysur yn mynd yn groes i’r ffydd Islamaidd.

Cafodd deiseb ei chyflwyno er mwyn ceisio gwahardd hysbysebion yn y brifddinas, Islamabad.

Mae penderfyniad y llys yn ymwneud â hyrwyddo’r diwrnod ar bapur neu ar wefannau cymdeithasol yn y ddinas.

Mae Islamyddion a phleidiau gwleidyddol asgell dde yn trin yr ŵyl fel un ffiaidd sydd wedi cael ei mewnforio o’r Gorllewin.