Mae lluoedd arfog Twrci wedi llwyddo i wthio aelodau Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – yn ôl yn dilyn wythnosau o frwydro yn al-Bab.

Yn ôl adroddiadau, fe fu brwydro ffyrnig ar y ffin ger Syria wrth i Dwrci ymosod o’r awyr.

Mae ymdrechion ar y gweill i gipio al-Bab cyn i lywodraeth Syria anfon rhagor o filwyr i mewn.