Mariano Rajoy (canol) wedi cael pedwerydd tymor wrth y llyw yn Sbaen (Llun: PA)
Mae Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy wedi cael ei ethol yn arweinydd y Blaid Boblogaidd am bedwerydd tymor.

Doedd neb yn erbyn yr ymgeisydd 61 oed, ac fe gafodd e 95% o’r bleidlais.

Dywedodd ei bod yn “anrhydedd” cael arwain ei blaid.

Mae dirprwy arweinydd y blaid, Maria Dolores de Cospedal hefyd wedi cael ei hail-ethol.

Daeth Mariano Rajoy yn Brif Weinidog yn 2011, a hynny yn ystod cwymp ariannol.

Fe fu’n arweinydd ar lywodraeth leiafrifol ers mis Hydref.