Mae’r Almaen wedi ethol Frank-Walter Steinmeier yn Arlywydd newydd y wlad heddiw.

Cyn-weinidog tramor y wlad oedd ffefryn i olynu Joachim Gauck, 77, sydd wedi penderfynu peidio sefyll am ail dymor.

Cynulliad o 1,260 oedd wedi dewis yr Arlywydd newydd.

Mae’r cynulliad yn gyfuniad o 630 o ddeddfwyr, a 630 o gynrychiolwyr o 16 talaith y wlad.

Roedd clymblaid i’r dde ac i’r chwith o’r canol o dan arweiniad Canghellor yr Almaen, Angela Merkel yn cefnogi Frank-Walter Steinmeier.

Enillodd e 931 o bleidleisiau allan o 1,260.

Fe fydd etholiadau seneddol y wlad yn cael eu cynnal ym mis Medi, ac fe fydd y Canghellor Angela Merkel yn sefyll am bedwerydd tymor.

Frank-Walter Steinmeier

Roedd Frank-Walter Steinmeier yn aelod blaenllaw o lywodraeth Gerhard Schroeder ac o’i becyn economaidd yn 2003, oedd yn cynnwys diwygiadau a thoriadau lles.

Fe fu’n weinidog tramor o dan Angela Merkel o 2005 i 2009 ac o 2013 ymlaen, gan dreulio cyfnod yn arweinydd yr wrthblaid yn y cyfnod hwnnw.

Mae’n cael ei ystyried yn ddiplomat, ond fe fu’n chwyrn ei feirniadaeth o Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn ddiweddar, ac o “wleidyddiaeth drwy ofn”.

Yr ymgeiswyr eraill yn yr etholiad oedd Christoph Butterwegge (Plaid y Chwith), Albrecht Glaser (Alternativ für Deutschland), Alexander Hold (Pleidleiswyr Rhydd) ac Engelbert Sonneborn.