Un o'r morfilod ar draeth Farwell Spit yn Seland Newydd ddoe (llun: Tim Cuff/New Zealand Herald trwy AP)
Mae haid newydd o 240 o forfilod wedi cael eu golchi i’r lan ar draeth anghysbell yn Seland Newydd ar ôl i wirfoddolwyr helpu gyrru haid arall yn ôl i’r môr.

Mae cyfanswm o dros 650 o forfilod peilot wedi cael eu dal ar hyd llain o arfordir ar Farewell Spit ar benrhyn deheuol Ynys y De dros y ddeuddydd diwethaf.

Mae tua 335 ohonyn nhw wedi marw, 220 yn dal ar y traeth a 100 yn ôl yn y môr.

Dywed achubwyr eu bod yn sicr bod y 240 diweddaraf yn haid newydd gan iddyn nhw dagio pob un o’r morfilod a gafodd eu hachub o’r grŵp cyntaf.

Tafod o dywod sy’n ymestyn allan i Fôr Tasman yw Farwell Spit, lle mae niferoedd mawr o forfilod wedi cael eu dal o’r blaen, a’r gred yw bod hyn oherwydd nad yw’n hawdd iddyn nhw nofio oddiyno.

Roedd y 416 o forfilod a oedd wedi cael eu golchi i’r lan yno ddoe y trydydd achos gwaethaf o’i fath yn Seland Newydd dros y 100 mlynedd ddiwethaf.§