Donald 'welwn ni chi yn y llys' Trump (Michael Vadon CCA4.0)
Mae llys ffederal yn yr Unol Daleithiau wedi gwrthod ail gyflwyno gwaharddiad ar deithwyr o saith gwlad Fwslimaidd – ac mae’r Arlywydd Trump wedi ymateb yn ffyrnig.

Fe anfonodd neges trydar yn union wedi’r dyfarniad, gan ddweud “welwn ni chi yn y llys, mae diogelwch ein cenedl yn y fantol.”

Mae’r gwrthdaro’n golygu y gallai’r ddadl gyrraedd Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau.

‘Codi cwestiynau dwys’

Yn ôl barnwyr y llys ffederal, mae’r gwaharddiad, a oedd wedi ei gyflwyno gan Donald Trump trwy orchymyn, yn codi cwestiynau cyfansoddiadol dwys ac yn targedu Mwslemiaid.

Mae’r gwaharddiad yn atal dinasyddion o Syria, Irac, Iran, Libanus, Somalia, Sudan ac Yemen rhag teithio i’r Unol Daleithiau – er fod y llys yn dweud nad oes tystiolaeth fod pobol o’r gwledydd hynny wedi bod yn gyfrifol am ymosodiadau yn America.