Mae heddlu Twrci wedi arestio pedwar o ddynion sy’n cael eu cyhuddo o fod yn aelodau o ISIS ac yn cynllwynio ymosodiad “anhygoel” ar y wlad.

Fe gafodd y dynion eu dwyn i’r ddalfa yn ystod cyrch yn Gaziantep, sydd ar y ffin â Syria. Fe gafodd 24 o feltiau hunanfomio eu cymryd, pob un wedi’u llwytho â 150 cilogram o ffrwydron; ynghyd â dau reiffl otomatig a “deunyddiau eraill”.

Dyw hi ddim yn glir eto o ba wlad neu wledydd y mae’r dynion yn dod.

Y llynedd, fe ddioddefodd Twrci gyfres o ymosodiadau angheuol dan law mudiad IS neu wrthryfelwyr Cwrdaidd. Fe gafodd tua 750 o bobol â chysylltiadau honedig efo IS eu harestio yr wythnos ddiwetha’, pan gynhaliwyd cyrchoedd yn 29 o ranbarthau’r wlad.