Jeff Sessions (Llun: Wikipedia)
Mae seneddwr Alabama wedi ei benodi i gabinet Donald Trump, er gwaethau’ gwrthwynebiad ffyrnig dros ei record ar hawliau sifil a mewnfudo.
Pleidleisiodd mwyafrif Senedd yr Unol Daleithiau o blaid penodiad Jeff Sessions yn Dwrnai Gwladol.
Yn y swydd hon, ef fydd pennaeth Adran Gyfiawnder y wlad, ac ef hefyd fydd prif swyddog cyfreithiol a chyfreithiwr y Llywodraeth.
Mae’n cael ei ystyried yn un o aelodau mwyaf ceidwadol y Senedd, ac mae wedi ei feirniadu’n hallt gan Ddemocratiaid sydd yn ofni na fydd yn amddiffyn hawliau lleiafrifoedd, pobol hoyw na mewnfudwyr.
Mae’r blaid Weriniaethol wedi amddiffyn penodiad y seneddwr, gan ddadlau ei fod yn ddyn gonest â phrofiad helaeth o weithio ym myd gwleidyddiaeth.
Penodiad nesaf
Yn ystod dydd Iau (Chwefror 9) bydd y Senedd yn cynnal pleidlais ar ddewis Donald Trump i lenwi swydd Ysgrifennydd Iechyd, sef Tom Price o Georgia.
Mae’n debygol y bydd Tom Price yn cael ei benodi, ond mae’r Democratiaid wedi mynegi pryder eto oherwydd ei gysylltiad â chwmnïau gofal iechyd a’r posibilrwydd y gallai annog deddfwriaeth sydd yn ffafrio’r cwmnïau hyn.