Fe fydd penaethiaid gwledydd NATO yn cyfarfod arlywydd newydd yr Unol Daleithiau am y tro cynta’ ym mis Mai eleni.

Mae prif weinidog gwlad Belg, Charles Michel, wedi cadarnhau mewn neges ar wefan Twitter y bydd yn “falch iawn o groesawu” ei gydweithwyr i ddinas Brwsel ar gyfer uwch-gynhadledd nesa’ NATO ar Fai 25.

Bydd pencadlys newydd NATO ger maes awyr Brwsel hefyd yn cael ei agor yn swyddogol yn ystod yr uwch-gynhadledd.

Y bwriad ydi cynnal seremoni torri-rhuban yno, tra bod yr arweinwyr yn cyfarfod yn yr hen adeilad dros y ffordd.

Mae Donald Trump wedi corddi’r dyfroedd ynglyn â NATO, gan alw’r cynulliad o wledydd yn “ddibwys” a rhybuddio y gallai ddewis peidio ag amddiffyn ei gyd-arweinyddion a’u gwledydd oni bai eu bod nhw’n cynyddu eu gwariant milwrol.