Recep Tayyip Erdogan, arlywydd Twrci
Fe fydd pennaeth y CIA yn ymweld â Thwrci ddydd Iau, fel rhan o daith dramor i drafod materion diogelwch.

Fe gafodd y daith ei threfnu yn dilyn sgwrs ffon rhwng arlywyddion y ddwy wlad – Donald Trump a Recep Tayyip Erdogan yn hwyr nos Fawrth yr wythnos hon.

Ar yr agenda fe fydd sgil-effeithiau’r ymdrech gan y fyddin i gipio grym yn Nhwrci y llynedd; ynghyd ag achos y milwyr Cwrdaidd yn Syria, sy’n derbyn cefnogaeth gan yr Unol Daleithiau, ond sy’n cael eu hystyried yn derfysgwyr gan Ankara.

At hynny, mae Twrci am weld y clerig, Fethullah Gulen, yn cael ei estraddodi o’r Unol Daleithiau, ac mae Twrci hefyd yn annog Washington i roi’r gorau i gefnogi’r Cwrdiaid.