Mae tua 15,000 o bobol oedd yn byw mewn tref sianti ger prifddinas y Ffilipinas, wedi colli eu cartrefi mewn tân dros nos.

Fe gafodd 1,000 o gartrefi eu llosgi i’r llawr yn Parola ger Manila, lle’r oeddd nifer o deuluoedd yn rhannu tai bychain. Mae swyddogion tân yn dwed fod saith o bobol wedi diodde’ mân anafiadau wedi i’r fflamau gynnau nos Fawrth, ond chafodd neb ei ladd.

Mae tair canolfan wedi’u hagor er mwyn rhoi cartre’ dros dro, ynghyd â bwyd a dwr, i’r 3,000 o deuluoedd sydd wedi colli eu cartrefi.

Ond oriau’n unig wedi i’r tân gael ei ddiffodd, mae pobol i’w gweld yn eistedd ar y strydoedd gyda’r oll o’u heiddo – yn cynnwys dillad, peiriannau golchi a ffaniau trydan.