Mae daeargryn yn mesur 6.4 wedi ysgwyd ardal anghysbell o Bacistan, gydag adroddiadau yn awgrymu fod tai wedi’u difrodi, ond neb wedi’i anafu.

Fe ddaeth cadarnhad gan Adran Dywydd y wlad fod canolbwynt y daeargryn i’r gorllewin o dref Pasni yn nhalaith Baluchistan, sydd ar y ffin ag Iran a rhyw 437 milltir i’r de o Quetta.

Y gred ydi fod y canolbwynt rhyw chwe milltir o dan wyneb y ddaear.

Yn y cyfamser, mae timau argyfwng yn barod i ymateb, rhag ofn y bydd mwy o gryniadau.