Llun: PA
Mae hunan-fomiwr wedi targedu’r Goruchaf Lys yn Kabul, prifddinas Afghanistan, gan ladd o leiaf 19 o bobol, yn ôl swyddogion.

Cafodd o leiaf 41 o bobl hefyd eu hanafu yn y ffrwydrad ger mynediad sy’n cael ei ddefnyddio gan staff y llys wrth iddyn nhw adael yr adeilad.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ond mae’r Taliban wedi ymosod ar y llys, y gweithwyr a llysoedd eraill mewn taleithiau eraill yn y gorffennol.

Daw’r ymosodiad yn Kabul ychydig oriau’n unig ar ôl i fom ffrwydro ar ochr ffordd gan ladd un o brif swyddogion y Llywodraeth, Abdul Khaliq, wrth iddo deithio adref o’r mosg  yng ngorllewin talaith Farah.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hwnnw.

Mae gwrthryfelwyr y Taliban yn aml yn defnyddio bomiau ar ochr ffordd a hunan-fomwyr i dargedu swyddogion y llywodraeth ac aelodau o luoedd arfog y wlad.