Cyn-Arlywydd Catalwnia, Artur Mas (Llun: Wicipedia)
Mae tri gwleidydd o Gatalwnia, gan gynnwys y cyn-Arlywydd rhanbarthol, yn ymddangos yn y llys heddiw i wynebu cyhuddiadau o beidio ufuddhau i orchymyn cyfansoddiadol ddwy flynedd yn ôl a oedd yn gwahardd pleidlais ar annibyniaeth y rhanbarth.

Mae ymgyrchwyr o blaid annibyniaeth y tu allan i’r Uchel Lys yng Nghatalwnia i ddangos eu cefnogaeth.

Mae cyn-arweinydd Catalwnia, Artur Mas, yn wynebu gwaharddiad rhag cynnal swydd gyhoeddus am 10 mlynedd am iddo ganiatáu pleidlais ar annibyniaeth ym mis Tachwedd 2014.

Yn ystod y bleidlais, roedd 80% o’r 2.3 miliwn a oedd wedi bwrw pleidlais yn dweud eu bod yn cefnogi annibyniaeth i Gatalwnia.

Roedd y refferendwm wedi cael ei ddyfarnu’n anghyfreithlon gan Lys Cyfansoddiadol Sbaen bum diwrnod yn gynharach.