Amgueddfa'r Louvre (Llun: Wikipedia)
Mae tad y dyn sy’n cael ei amau o’r ymosodiad ar filwyr ger amgueddfa’r Louvre ym Mharis ddydd Gwener wedi dweud nad yw ei fab yn frawychwr.

Yn ôl Reda Refaie al-Hamahmy, mae gan ei fab 28 oed fywyd normal, ac mae’n briod a chanddo fab ifanc.

Dywedodd: “Os caiff ei ganfod yn euog, boed i Dduw fod gyda ni. Ond os yw’n ddieuog, mae arnyn nhw ymddiheuriad i ni.”

Cafodd Abdullah al-Hamahmy ei saethu bedair gwaith ar ôl yr ymosodiad, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl erbyn hyn.