Fe fydd y chwarterwr Tom Brady a’r hyfforddwr Bill Belichick yn ceisio torri record wrth sicrhau pumed buddugoliaeth yn y Super Bowl yn Houston, Texas heno wrth iddyn nhw herio’r Atlanta Falcons.

Byddai buddugoliaeth o’r fath yn sicrhau bod Tom Brady yn codi uwchben Joe Montana a Terry Bradshaw, dau o fawrion y gamp, yn nhermau nifer y buddugoliaethau gawson nhw ym mhrif gystadleuaeth pêl-droed Americanaidd.

Mae gan Bill Belichick chwe theitl Super Bowl, a byddai un arall yn ei godi uwchben Chuck Noll, cyn-hyfforddwr y Pittsburgh Steelers.

Ac yntau’n 39 oed erbyn hyn, mae’n bosib bod gyrfa Tom Brady yn dirwyn i ben ac fe allai heno fod yn gyfle olaf iddo fe sicrhau un teitl arall.

Dywedodd: “Mae bod yn chwaraewr hŷn a meddu ar y profiad meddyliol a theimlo’n wych yn gorfforol yn fantais wych i fi.

“Gobeithio y galla i barhau i fynd. Dw i ddim yn gweld y diwedd yn dod.”

Matt Ryan – ei wrthwynebydd

Chwarterwr y Falcons yw Matt Ryan, sydd yn sylweddoli maint y gamp sy’n ei wynebu i ennill brwydr y chwarterwyr heno.

“Mae Tom wedi cael gyrfa wych, mae e wedi bod mor gyson ers cyhyd ac wedi gwneud jobyn gwych.

“Mae’n creu argraff, ond un gêm sy’n bwysig.

“Ein tîm ni sy’n bwysig a’u tîm nhw, a beth fyddwn ni’n ei wneud ddydd Sul.

“Byddwn ni’n teimlo’n hyderus ac yn dda amdanon ni ein hunain a’n cynllun ar gyfer y gêm.”