Mae cwch oedd yn cludo 93 o ffoaduriaid wedi cyrraedd y lan yng ngogledd-ddwyrain Cyprus.
Roedd 42 o blant a 17 o fenywod ar y cwch a gafodd ei ddarganfod ger pentref Kato Pyrgos.
Cawson nhw eu darganfod nos Sadwrn, toc wedi canol nos.
Cawson nhw archwiliad meddygol, ac fe fyddan nhw’n cael eu trosglwyddo i ganolfan dderbyn ger Nicosia, prifddinas y wlad, yn ddiweddarach.