Joost van der Westhuizen (Llun: PA)
Mae cyn-fewnwr tîm rygbi De Affrica, Joost van der Westhuizen mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae’n dioddef o glefyd niwronau motor, ac wedi bod yn brwydro yn erbyn y salwch ers 2011.

Daeth cadarnhad o’r newyddion ar dudalen Facebook sefydliad y J9 Foundation, yr elusen a gafodd ei sefydlu ganddo.

Mae’r neges yn gofyn am “barchu’r teulu”.

Fe sgoriodd 38 o geisiau dros ei wlad yn ystod ei yrfa.